Mae Nicola Sturgeon yn awgrymu y byddai Llywodraeth Lafur Prydain yn cynnal ail refferendwm Brexit cyn ail refferendwm annibyniaeth yn yr Alban.

Mae prif weinidog yr Alban yn dweud bod awgrym Jeremy Corbyn y byddai’n cynnal refferendwm newydd ar Brexit o fewn chwe mis ar ôl dod i rym yn awgrymu mai hwnnw fyddai’n dod gyntaf.

Mae Nicola Sturgeon eisoes wedi dweud ei bod hi’n gobeithio cynnal ail refferendwm annibyniaeth yn ail hanner y flwyddyn nesaf.

“Mae’n edrych fel pe bai’r un am yr Undeb Ewropeaidd am ddod gyntaf ac yna’r refferendwm annibyniaeth tua diwedd y flwyddyn nesaf,” meddai Nicola Sturgeon wrth raglen Good Morning Scotland y BBC.

“Dyna’r drefn. Yn nhermau’r flaenoriaeth, yn nhrefn pwysigrwydd os liciwch chi, rwy eisiau i’r Deyrnas Unedig gyfan gael y cyfle i ddianc rhag Brexit ond wrth gwrs, dydy refferendwm yr Undeb Ewropeaidd ddim yn gwarantu bod yr Alban yn dianc rhag Brexit.

“Fe allen ni gael yr un canlyniad ag y cawson ni yn 2016.

“A ph’un ai Brexit sy’n stopio unrhyw bolisi San Steffan rhag cael ei orfodi ar yr Alban neu beidio, y ffordd i wneud hynny yw dod yn annibynnol, a dyna pam fod y dewis ynghylch dyfodol ein gwlad mor bwysig.”

Dyfodol yr Alban yn nwylo Boris Johnson?

Dywed Nicola Sturgeon fod gan bobol yr Alban ddewis rhwng dewis eu dyfodol eu hunain neu adael i Boris Johnson benderfynu.

“Fydd yr etholiad hwn ddim yn penderfynu ar annibyniaeth, ond mae’n helpu i benderfynu ai Boris Johnson neu bobol yr Alban sy’n penderfynu ynghylch ein dyfodol,” meddai.

Mae’n wfftio’r posibilrwydd y gallai refferendwm i aros yn yr Undeb Ewropeaidd ddileu’r angen am annibyniaeth yn yr Alban.

“Dw i ddim yn derbyn hynny oherwydd y newid sylfaenol yw’r posibilrwydd y gallai’r Alban gael ei thynnu allan o’r Undeb Ewropeaidd ond y ffordd ddirmygus hefyd y mae’r Alban wedi cael ei thrin o ran ein lles, ein llais, ein safbwyntiau’n cael eu hanwybyddu.

“Rwy’n glir iawn yn yr etholiad hwn ei fod yn iawn i’r Alban gael dewis ynghylch ein dyfodol ein hunain, beth bynnag yw’r dewis hwnnw a mater i bobol yr Alban yw penderfynu ai annibyniaeth yw hynny neu beidio.

“Nid mater i fi yw hynny.

“Ond mae’r gallu hwnnw i ddewis yn well o lawer na chael y penderfyniad wedi cael ei wneud drosom ni gan lywodraethau San Steffan, yn enwedig llywodraeth San Steffan dan arweiniad rhywun fel Boris Johnson.”

Mae hi’n wfftio’r posibilrwydd y gallai refferendwm Brexit a refferendwm annibyniaeth gael eu cynnal ar yr un diwrnod.