Mae Boris Johnson, prif weinidog Prydain, yn cael ei gyhuddo o ddweud celwydd ynghylch system mae’n awyddus i’w chyflwyno er mwyn lleihau nifer y mewnfudwyr sy’n dod i wledydd Prydain.

Mae e am weld system bwyntiau newydd yn debyg i’r hyn sy’n bodoli yn Awstralia.

Byddai’n cwtogi nifer y mewnfudwyr fyddai’n cael yr hawl i aros yng ngwledydd Prydain.

Pobol addysgiedig ac mewn swyddi fel meddygon, nyrsys, gofalwyr cymdeithasol a phobol fusnes ac entrepreneuriaid fyddai’n cael y flaenoriaeth o dan y drefn sy’n cael ei chynnig.

Byddai cynnig arbennig i gael mynediad brys hefyd i bobol sydd am ddod i weithio ym maes iechyd.

Mae Boris Johnson yn dweud y byddai ei gynnig yn gweld nifer y mewnfudwyr yn gostwng.

Wfftio

Ond mae Jonathan Ashworth, llefarydd iechyd Llafur, yn cyhuddo Boris Johnson o “gamarwain” pleidleiswyr.

Mae’n dweud na fyddai gan y Ceidwadwyr reolaeth dros y nifer o fewnfudwyr oherwydd bod cynlluniau ar y gweill i sefydlu pwyllgor annibynnol i ymgymryd â’r gwaith.

“Mae’n dweud y byddai’r pwyllgor yn annibynnol yn yr un modd â Banc Lloegr felly mae e’n camarwain pobol wrth ddweud ei fod e’n gostwng mewnfudo oherwydd fydd dim rheolaeth ddemocrataidd,” meddai.

“Fydd dim atebolrwydd o ran unrhyw benderfyniad gan weinidog mewnfudo oherwydd bydd yn cael ei drosglwyddo i bwyllgor annibynnol statudol – felly unwaith eto, mae Boris Johnson yn dweud celwydd wrth bobol Prydain.”