Mae John McDonnell, canghellor yr wrthblaid, yn dweud y gallai’r helynt gwrth-Semitiaeth niweidio gobeithion Llafur o ennill yr etholiad cyffredinol ddydd Iau (Rhagfyr 12).

Ond mae’n dweud bod y blaid “wedi gwneud popeth o fewn ein gallu” i ddatrys y sefyllfa, gan gynnwys “ymddiheuro wrth y gymuned Iddewig”, ac mai “nifer fach” o bobol wrth-Iddewig sydd yn y blaid erbyn hyn.

Mae’n wfftio’r awgrym fod 136 o achosion sydd heb eu datrys o hyd.

Serch hynny, mae’n dweud nad y Blaid Lafur yn unig sy’n euog o’r fath ymddygiad.

“Mae angen i ni ddysgu gwersi bob amser, wrth gwrs, a phob plaid felly, nid dim ond y Blaid Lafur,” meddai wrth raglen Andrew Marr ar y BBC.

“Dw i eisiau i ni fod yn esiampl.

“Dw i’n ymddiheuro wrth y gymuned Iddewig oherwydd rydyn ni wedi gwneud iddyn nhw ddioddef.

“Dw i’n dweud wrthyn nhw ein bod ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu.

“Rydyn ni eisiau dysgu rhagor o wersi a bod yn esiampl ar gyfer gwrth-hiliaeth, a dyna sut ddylai’r Blaid Lafur fod.”

‘Un achos yn un yn ormod’

Er ei fod e’n dweud bod nifer fach o bobol o fewn y blaid yn wrth-Iddewig, mae’n dweud bod “un yn un yn ormod”.

“Does dim ots gyda fi faint o bobol, mae un person gwrth-Iddewig yn ein plaid yn un yn ormod.

“Yr hyn rydyn ni’n ei wneud yw eu taflu nhw allan yn eu heidiau.”