Mae’r ddau gyn-brif weinidog Syr John Major a Tony Blair wedi apelio am bleidleisio tactegol yn erbyn Boris Johnson wrth rannu llwyfan mewn rali gwrth-Brexit yn Llundain neithiwr.

Dywedodd Tony Blair y byddai ef yn bersonol yn pleidleisio dros Lafur, ond pwysodd ar eraill i gefnogi’r “ymgeiswyr gorau” yn eu hetholaethau.

“Mae yna ymgeiswyr Llafur wych sy’n haeddu’n cefnogaeth lwyr,” meddai.

“Ond os edrychwch fesul etholaeth, fe fyddwch chi’n adnabod yr ymgeiswyr gorau i’w cefnogi. Cefnogwch nhw.

“Nid un etholiad cyffredinol yw hwn ond 650 o etholiadau unigol. Meddyliwch yn hir. Meddyliwch yn galed. Mae’n amser dewis. Dewiswch yn ddoeth.”

Fe wnaeth John Major ddisgrifio Brexit fel y penderfyniad polisi tramor gwaethaf a wnaed yn ei oes.

“Fe fydd gadael yr Undeb Ewropeaidd yn effeithio ar bob agwedd o’n bywyd am lawer degawd i ddod,” meddai.

“Fe fydd yn gwneud ein gwlad yn dlotach a gwanach. Fe fydd yn taro’r rheini sydd â’r lleiaf.”

Apeliodd yn daer ar bobl ifanc i bleidleisio:

“Mae eich pleidlais yn gwbl hanfodol – oherwydd gennych chi mae’r brydles hiraf ar ddyfodol ein gwlad, a’n lle yn y byd.

“Peidiwch â deffro ddydd Gwener yn difaru peidio â gwneud dewis.”