Mae’r cyn-Brif Weinidog, Syr John Major, wedi cefnogi tri ymgeisydd annibynnol a fydd yn ceisio ennill seddi Ceidwadol yn yr etholiad.

Mae David Gauke, Dominic Grieve ac Anne Milton, oll yn cystadlu yn annibynnol o unrhyw blaid am  seddi y buon nhw yn eu cynrychioli tros y blynyddoedd diwethaf yn enw’r Blaid Geidwadol.

“Gadewch i mi wneud un peth yn hollol glir: does dim un o’r rhain wedi cefnu ar y Blaid Geidwadol, y Blaid Geidwadol sydd wedi eu gadael nhw,” meddai John Major.

“Heb y fath dalent ar ei meinciau, mae’r senedd yn mynd i fod yn dlotach. Dyna pam – pe bawn yn byw yn un o’u hetholaethau nhw – basen nhw’n derbyn fy mhleidlais.”

Mae disgwyl i John Major annerch rali tros gynnal ail refferendwm Brexit ac un o’r trefnwyr yw Tony Blair, cyn-Brif Weinidog arall.