Mae degawd o doriadau gan y Blaid Geidwadol wedi arwain at gau gwasanaethau cyhoeddus fel canolfannau plant, llyfrgelloedd a thoiledau cyhoeddus yn ôl ymchwil newydd.

Dywed undeb Unsain fod yr ymchwil yn dangos effaith torri ar gyllid cynghorau sir.

Yn ôl yr ymchwil mae toriadau wedi achosi gostyngiad o 17% mewn gwariant gan gynghorau ar wasanaethau ers 2010.

Drwy ddefnyddio data gan 330 o gynghorau sir mae Unsain wedi datgelu fod 859 o ganolfannau plant wedi cau ers 2010, tra mae 940 o ganolfannau ieuenctid wedi cau.

Ar ben hynny, mae 835 o doiledau cyhoeddus wedi cau ers i’r Ceidwadwyr ddod i bŵer, meddai Unsain.

Hefyd mae un o bob pump llyfrgell unai wedi cau, wedi ei phreifateiddio neu bellach yn cael ei rhedeg gan wirfoddolwyr.

“Mae graddfa’r toriadau yn frawychus a ffiaidd,” meddai Ysgrifennydd Cyffredinol Unsain, Dave Prentis.

“Mae pob toriad wedi cael effaith enfawr ar gymunedau, a phobl sy’n agored i niwed ac sydd methu edrych ar ôl eu hunain sy’n dioddef fwyaf”.