Boris Johnson a Jeremy Corbyn yn mynd benben mewn dadl deledu

Diweddarwyd am  
Boris Johnson a Jeremy Corbyn

Boris Johnson a Jeremy Corbyn yn ystod dadl deledu ITV yn ddiweddar

Llun: ITV / PA Wire

Fe fydd Boris Johnson yn mynd benben gyda Jeremy Corbyn mewn dadl deledu ar y BBC heno (nos Wener, Rhagfyr 6).

Daw hyn ar ôl i  Boris Johnson gael ei feirniadu gan Andrew Neil am wrthod gwneud cyfweliad gydag o ar ei raglen BBC.

Yn ôl Andrew Neil, os oes disgwyl i’r Prif Weinidog wynebu arweinwyr fel Donald Trump a Vladimir Putin dylai fod yn barod i gynnal cyfweliad hanner awr gydag o.

Mae Boris Johnson wedi cael ei gyhuddo o osgoi cael ei holi’n ddwys gan y darlledwr profiadol, er bod arweinwyr y pleidiau eraill, gan gynnwys Jeremy Corbyn, wedi cymryd rhan yn ei raglen.

Mae’r Prif Weinidog hefyd wedi gwrthod gwneud cyfweliad gyda ITV. Fe fydd yn cymryd rhan yn y ddadl gydag arweinydd y Blaid Lafur heno, lai nag wythnos cyn i bobl fwrw eu pleidlais ar Ragfyr 12.

Roedd tua 6.7 miliwn o bobol wedi gwylio’r ddadl deledu rhwng Boris Johnson a Jeremy Corbyn ar ITV fis diwethaf.

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Owain Glyn Dŵr a dysgu hanes Cymru – darlith Dr Elin Jones