Dyn, 51, yn y llys ar gyhuddiad o lofruddio bachgen 12 oed

 
Car heddlu ar y stryd fawr

Llun parth cyhoeddus

Fe fydd dyn 51 oed yn mynd gerbron ynadon yn Chelmsford, Essex heddiw (dydd Gwener, Rhagfyr 6) ar gyhuddiad o lofruddio bachgen 12 oed fu farw ar ôl achos o daro a ffoi tu allan i ysgol.

Bu farw Harley Watson yn yr ysbyty ar ôl i gar daro plant oedd yn gadael ysgol uwchradd Debden Park yn Loughton toc cyn 3.20yp ar Ragfyr 2.

Mae Terence Glover, o  Loughton, wedi’i gyhuddo o lofruddiaeth, 10 cyhuddiad o geisio llofruddio a gyrru’n beryglus mewn cysylltiad â’r digwyddiad, meddai Heddlu Essex.

Mae’r 10 cyhuddiad o geisio llofruddio yn ymwneud ag anafiadau a gafodd dynes, chwe bachgen a thair merch rhwng 12 a 23 oed yn y gwrthdrawiad.

Mae’r heddlu’n parhau i apelio am wybodaeth i’r digwyddiad.

Mewn teyrnged i Harley Watson, dywedodd ei deulu ei fod yn fachgen “da, clên, cymwynasgar a hyfryd.”

Hyd yn hyn mae mwy na £54,000 wedi’i gyfrannu ar dudalen  GoFundMe.com er cof amdano.

Mae disgwyl i Terence Glover fynd gerbron ynadon Chelmsford heddiw.

Gwasanaethau Brys

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Owain Glyn Dŵr a dysgu hanes Cymru – darlith Dr Elin Jones