Mae’r Blaid Lafur wedi cyhuddo polisïau Torïaidd o fod yn “uniongyrchol gyfrifol” am bobl yn byw a marw ar y stryd.

Daw hyn wrth i’r blaid gyhoeddi cynlluniau i roi terfyn ar ddigartrefedd o fewn pum mlynedd.

Byddai achub bywydau’r gaeaf hwn yn “gyrch moesol” pe bai Llafur yn ennill yr etholiad ar Ragfyr 12, meddai’r blaid, wrth gyhoeddi cynllun pecyn gwerth biliynau o bunnoedd i ddelio â’r argyfwng.

Mae’r nifer o bobl sy’n cysgu ar y stryd wedi mwy na dyblu ers 2010 tra bod y nifer y bobl sydd wedi marw yn ddigartref wedi cynyddu i 726 yng Nghymru a Lloegr, yn ôl ffigyrau swyddogol.

Mae pob un o’r tair prif blaid wedi gado rhoi terfyn i bobl yn cysgu ar y stryd erbyn diwedd y Senedd nesaf.

Byddai’r Blaid Lafur yn adeiladu miloedd o dai newydd ar gyfer model “tai yn gyntaf” er mwyn cael pobl oddi ar y stryd.

Dywed yr ysgrifennydd tai cysgodol John Healey: “Mae’r cynnydd mewn digartrefedd yn gywilydd mewn gwlad mor gyfoethog â’n gwlad ni.”