Mae gan ap newydd yn yr iaith Aeleg fwy o ddefnyddwyr nag sy’n siarad yr iaith.

Cafodd ap Duolingo ei ddatblygu ar gyfer Diwrnod St. Andrew yr wythnos ddiwethaf, ac roedd 20,000 o bobol wedi cofrestru i’w dderbyn cyn iddo gael ei lansio.

Mae Duolingo bellach yn cynnig mwy na 90 o ieithoedd ar yr ap ar gyfer iOS, Android a’r wefan.

Erbyn hyn, mae mwy na 65,000 o ddysgwyr wedi cofrestru o fewn yr wythnos gyntaf.

Yn ôl Cyfrifiad 2011, mae 57,375 o bobol yn gallu siarad yr iaith, ac mae 5,460 yn rhagor yn dysgu, yn ôl Prifysgol Caeredin – mae hynny’n golygu 62,835 i gyd.

‘Anhygoel’

“Mae cael mwy o bobol yn dysgu ar Duolingo o fewn wythnos nag sy’n gallu siarad yr iaith neu sy’n dysgu yn rhywle arall ar hyn o bryd yn anhygoel,” meddai Colin Watkins, rheolwr Duolingo yr Alban.

“Mae’n dyst i ba mor hawdd, hwyliog ac effeithiol all dysgu ar Duolingo fod, boed yn dysgu Gaeleg yr Alban neu Sbaeneg, Lladin neu Siapanaëg.”

Mae dysgwyr yn gallu dysgu’r iaith drwy chwarae gemau a mynd trwy gyfres o lefelau, ac maen nhw’n dysgu geirfa sy’n addas ar gyfer bywyd bob dydd.

“Mae’r iaith Aeleg yn rhan hanfodol o hunaniaeth ddiwylliannol yr Alban ac rydym am sicrhau bod y rhai sy’n dymuno dysgu a defnyddio’r iaith yn cael pob cyfle i wneud hynny,” meddai John Swinney, Dirprwy Brif Weinidog yr Alban.

“Felly rwy’n croesawu’n gynnes lansiad yr adnodd ar-lein newydd gan Duolingo a fydd yn declyn defnyddiol arall i hybu’r defnydd o’r Aeleg.

“Mae’n eistedd ochr yn ochr â gwefan newydd Learn Gaelic, sy’n cynnwys cyfoeth o ddeunyddiau dysgu i oedolion i’r sawl sydd â diddordeb yn yr iaith.”