Mae’n ymddangos bod siopwyr wedi sgubo pryderon Brexit dros dro i un ochr ym mis Tachwedd wrth i’r ffocws symud i ddod o hyd i fargeinion Nadolig.

Dywed Consortiwm Manwerthu Prydain (BRC)-KPMG fod twf yn ymddangos yn gryfach nag yn ystod y misoedd blaenorol yng nghanol arwyddion bod defnyddwyr wedi rhoi pryderon am ansicrwydd gwleidyddol o’r neilltu am nawr i ganolbwyntio ar dymor y Nadolig.

Roedd cyfanswm y gwerthiant i lawr 4.4% rhwng Hydref 27 a Tachwedd 23,O ond fod y ffigwr hwn wedi’i ystumio gan amseriad hwyr Dydd Gwener Du eleni.

Pan addaswyd y ffigurau,, fe fu cynnydd o 0.9%.

“Unwaith y bydd y ffigurau wedi’u haddasu i ystyried amseriad Dydd Gwener Du, mae’r twf yn ymddangos yn gryfach ym mis Tachwedd nag yn y misoedd blaenorol,” meddai Helen Dickinson, prif weithredwr, Consortiwm Manwerthu Prydain.

“Roedd yn ymddangos bod siopwyr yn barod i fanteisio ar y bargeinion gwych sydd ar gael, ar-lein ac ar y stryd fawr.

“Ar ben hynny, gan fod bwgan Brexit heb gytundeb wedi cael ei wthio yn ôl at ar ôl y Nadolig, roedd defnyddwyr yn fwy parod i agor eu waledi i wneud ychydig o wariant Nadoligaidd ychwanegol.”