Mae Facebook wedi dileu hysbysebion y Blaid Geidwadol a ddefnyddiodd fersiynau wedi’u golygu o gynnwys y BBC.

Dywedodd y gorfforaeth wrth y rhwydwaith cymdeithasol bod yr hysbysebion yn torri ar ei hawliau eiddo deallusol, ar ôl honni y gallen nhw “niweidio canfyddiadau o’n didueddrwydd”.

“Rydyn ni wedi dileu’r cynnwys hwn yn dilyn hawliad eiddo deallusol dilys gan ddeiliad yr hawliau, y BBC,” meddai llefarydd ar ran Facebook.

“Pryd bynnag y byddwn yn derbyn hawliadau IP dilys yn erbyn cynnwys ar y platfform, mewn hysbyseb neu rywle arall, rydym yn gweithredu yn unol â’n polisïau ac yn gweithredu yn ôl yr angen.”

Roedd un o’r hysbysebion yr oedd y BBC yn pryderu amdanyn nhw yn cynnwys clip wedi’i olygu o olygydd gwleidyddol y BBC, Laura Kuenssberg, yn son am “oedi dibwrpas i Brexit”, ac yna’r darlledwr  o Gymru, Huw Edwards yn nodi “oedi arall i Brexit”.

Defnyddiodd gapsiwn hefyd, gan ddweud: “Senedd grog = gridlock. Stopiwch yr anhrefn. Pleidleisiwch dros y Ceidwadwyr.”

Mae Huw Edwards wedi croesawu’r cynnig, gan ddisgrifio’r peth fel “stỳnt”.

“Camarwain”

Dywedodd llefarydd ar ran y Blaid Geidwadol yr wythnos ddiwethaf ei bod yn “amlwg” na chafodd y lluniau “eu golygu mewn modd sy’n camarwain neu’n newid y newyddion”, gan ychwanegu y gall gwylwyr “farnu drostyn nhw eu hunain”.

Daw hyn ar adeg heriol i Facebook, wrth i’r cawr technoleg wynebu pwysau i wahardd hysbysebion gwleidyddol yn gyfan gwbl yng nghanol Etholiad Cyffredinol.

Mae ei wrthwynebydd, Twitter, wedi gwahardd hysbysebu gwleidyddol ar ei blatfform, tra bod Google wedi dweud na fydd yn caniatáu i bleidleiswyr gael eu targedu gan hysbysebwyr ar sail eu cysylltiad gwleidyddol.

Fis diwethaf, roedd y Ceidwadwyr wedi golygu fideo o Syr Keir Starmer o’r Blaid Lafur i wneud iddo ymddangos fel pe bai’n methu ateb cwestiwn ar Brexit.

Yn y fideo munud o hyd ar gyfrif Twitter y blaid, cafodd Keir Starmer ei holi ar Good Morning Britain ar ITV gan Piers Morgan a Susanna Reid ynghylch polisi Brexit Llafur.

Daw’r fideo i ben gyda Keir Starmer yn syllu ar y camera ar ôl i Piers Morgan ofyn iddo: “Pam fyddai’r Undeb Ewropeaidd yn rhoi cytundeb da i chi os ydyn nhw’n gwybod eich bod chi’n mynd i ymgyrchu’n frwd yn ei erbyn?”

Fodd bynnag, yn y cyfweliad gwreiddiol atebodd Keir Starmer y cyflwynydd.