Dylai menywod allu cymryd tabledi erthyliad yn eu cartref eu hunain heb weld meddyg wyneb yn wyneb, yn ôl meddygon blaenllaw.

Dywed Coleg Brenhinol yr Obstetregwyr a Gynaecolegwyr (RCOG) y dylai menywod allu cael tabledi erthyliad yn dilyn sgwrs ar-lein, trwy Skype neu FaceTime.

Nod ei adroddiad newydd, Better For Women, yw cael mynediad haws at ofal trwy wneud rhagor o ddefnydd o dechnoleg fel telefeddygaeth.

Byddai meddygon yn gallu rhoi caniatâd heb apwyntiad wyneb yn wyneb, yna byddai menywod yn casglu’r tabledi o’u fferyllfa agosaf, meddai llefarydd ar ran RCOG.

Dywedodd adroddiad RCOG y dylai’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol hefyd nawr ystyried caniatáu i ferched gymryd y cyffur cyntaf, mifepristone, yn eu cartref eu hunain.

“Mynediad hawdd”

“Mae ein hadroddiad yn codi llawer o faterion pwysig yn ymwneud â gofal iechyd menywod, gan gynnwys mynediad hawdd at wasanaethau atal cenhedlu, erthyliad a ffrwythlondeb,” meddai’r Athro Lesley Regan, llywydd yr RCOG.

“Yn 2018 fe wnaeth yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol wella profiad menywod o ofal erthyliad yn fawr pan oedd yn caniatáu i fenywod gymryd misoprostol, yr ail gyffur a ddefnyddir i effeithio ar erthyliad meddygol cynnar, gartref.

“Ers hynny nid yw menywod bellach yn gorfod dioddef trallod nac embaras gwaedu a phoen crampio yn ystod eu taith adref.

“Yn 2019, argymhellodd y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (Nice) y dylid defnyddio mwy o ymgynghoriadau ar-lein a ffôn i symleiddio’r ddarpariaeth o ofal erthyliad.

“Er mwyn cefnogi’r canllawiau arfer gorau newydd hwn, dylai’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol hefyd ystyried caniatáu i fenywod, ar ôl eu hasesiad, gymryd mifepristone yng nghysur a hwylustod eu cartref eu hunain.

“Byddai hyn yn gwella hygyrchedd gofal erthyliad meddygol cynnar i fenywod, yn enwedig i’r rheini sy’n byw mewn ardaloedd gwledig neu’r rhai ag ymrwymiadau gofalu am blant.”

Dywedodd yr astudiaeth hefyd fod yn rhaid i wledydd Prydain a llywodraethau datganoledig “ddeddfu i gyflwyno parthau mynediad o amgylch darparwyr gofal erthyliad” i atal menywod rhag cael eu haflonyddu.

Dywedodd yr adroddiad: “Dylai pob merch allu cael mynediad i ofal erthyliad yn hawdd a heb ofni cosbau nac aflonyddu.”

Canfu arolwg RCOG o fwy na 3,000 o ferched i gyd-fynd â’r adroddiad fod llawer yn ei chael hi’n anodd cael mynediad at wasanaethau sylfaenol yn ymwneud ag atal cenhedlu, gofal erthyliad a’r menopos.

Dywedodd bron i bedair o bob 10 (37%) o ferched nad ydyn nhw’n gallu cael mynediad at wasanaethau atal cenhedlu yn lleol ac ni all 60% gael mynediad at wasanaethau beichiogrwydd heb eu cynllunio, gan gynnwys gofal erthyliad, yn lleol.

Dywedodd ychydig dros draean (34%) na wnaethant fynychu eu prawf ceg y groth diwethaf ac mae 58% yn teimlo nad oes gwasanaethau cymorth lleol ar gyfer y menopos.

Yn 2018, roedd 200,608 o erthyliadau ledled Cymru a Lloegr – cynnydd o 4% ar y flwyddyn flaenorol.

“Propaganda”

“Mae dull RCOG yn bropaganda i dwyllo menywod i feddwl bod tabledi erthyliad yn ddiogel ac yn syml. Nid ydyn nhw’r un o’r ddau,” meddai Antonia Tully, cyfarwyddwr ymgyrchoedd y gymdeithas Protection of Unborn Children.

“Maen nhw’n gyffuriau pwerus sydd wedi’u cynllunio i ladd babi yn y groth. A heb gyswllt wyneb yn wyneb â staff meddygol, bydd y polisi hwn yn gyrru menywod bregus, yn aml yn cael eu gorfodi i erthyliad gan ddynion sy’n eu cam-drin, hyd yn oed ymhellach o dan y radar.”