Fe fydd gwylnos yn cael ei chynnal heno (nos Lun, Rhagfyr 2) i gofio’r rhai fu farw yn yr ymosodiad brawychol ar London Bridge ac i ddiolch i’r gwasanaethau brys ac aelodau o’r cyhoedd oedd wedi ymateb i’r digwyddiad.

Bu farw cyn-fyfyrwyr Caergrawnt Saskia Jones, 23, a Jack Merritt, 25, ar ôl cael eu trywanu gan Usman Khan, 28 ddydd Gwener, Tachwedd 29.

Roedd e wedi cael ei ryddhau ar drwydded ar ôl cael ei garcharu yn 2012 am droseddau brawychol.

Roedd ar gwrs adferiad i droseddwyr ar ran Prifysgol Caergrawnt, oedd yn cael ei gynnal yn y ddinas.

Cafodd ei saethu’n farw gan yr heddlu.

Daw’r gwasanaeth yn Guildhall Yard wrth i Heddlu Lloegr gyhoeddi bod dyn 34 oed wedi cael ei arestio yn Stoke-on-Trent ar amheuaeth o baratoi gweithredoedd brawychol. Mae wedi cael ei alw yn ôl i’r carchar ar amheuaeth o dorri amodau ei drwydded.

Cafodd y dyn ei arestio ar ôl i Uned Gwrth-frawychiaeth Heddlu Gorllewin Lloegr chwilio ei gartref ddydd Sadwrn. Dywed yr heddlu nad oes unrhyw awgrym ei fod yn gysylltiedig â’r digwyddiad yn London Bridge.

Roedd Usman Khan ar drwydded ac yn gwisgo tag electroneg pan oedd wedi cynnal yr ymosodiad. Cafodd tri o bobol eraill eu hanafu yn y digwyddiad

Adolygiad brys

Mae’r ymosodiad wedi arwain at adolygiad brys gan y Weinyddiaeth Amddiffyn o amodau trwydded pob un o’r rhai sydd wedi eu rhyddhau o’r carchar am droseddau brawychol.

Dywedodd y Prif Weinidog Boris Johnson bod y ffigwr “tua 74” o bobol ac mae wedi rhoi addewid i gymryd camau i sicrhau nad yw troseddwyr sydd wedi cyflawni troseddau difrifol yn cael eu rhyddhau’n gynnar.

Ond mae teulu  Jack Merritt wedi dweud nad ydyn nhw eisiau i’w farwolaeth gael ei ddefnyddio i gyfiawnhau dedfrydau llymach i droseddwyr.

Roedd Usman Khan yn byw yn Stafford ac wedi cael caniatâd i deithio i ganol Llundain gan yr heddlu a’r Gwasanaeth Prawf.

Cafodd ei ryddhau ar drwydded ym mis Rhagfyr 2018, hanner ffordd drwy ei ddedfryd o 16 mlynedd.