Mae cyn-filwr o Iwerddon a ddaeth yn wraig i aelod o Daesh – neu’r ‘Wladwriaeth Islamaidd’ – wedi cael ei harestio ar ôl dychwelyd o Syria.

Roedd Lisa Smith, 38, yn arfer bod yn aelod o’r Lluoedd Amddiffyn oedd yn cydweithio’n agos ag Arlywydd Iwerddon.

Ond aeth hi i’r Dwyrain Canol yn 2015 ar ôl troi at Islam a chael ei radicaleiddio.

Bu’n byw gyda’i merch fach ddyflwydd oed mewn gwersyll, ac mae’r plentyn bellach yng ngofal ei theulu yn Nulyn. Bu farw ei thad, oedd yn aelod o Daesh, y llynedd.

Cafodd Lisa Smith ei chludo ar awyren o Dwrci, a chyrraedd Iwerddon fore heddiw (dydd Sul, Rhagfyr 1).

Mae hi’n gwadu bod ynghlwm wrth weithredoedd brawychol, ac mae Leo Varadkar, Taoiseach Iwerddon, yn dweud na fydd hi’n colli ei dinasyddiaeth.