Aeth canrif union heibio ers i’r aelod seneddol benywaidd cyntaf gymryd ei sedd yn Nhŷ’r Cyffredin.

Cafodd Nancy Astor ei hethol i gynrychioli’r Ceidwadwyr yn Plymouth Sutton, gan gymryd ei sedd ar Ragfyr 1, 1919.

Constance Markievicz oedd y gyntaf i gael ei hethol, ond wnaeth hi ddim cymryd ei sedd, yn unol â pholisi Sinn Fein.

Roedd gan Waldorf Astor, gŵr yr Americanes Nancy, sedd yn Nhŷ’r Arglwyddi a’i wraig oedd wedi ei olynu yn aelod seneddol.

Hi oedd llywydd cyntaf Cymdeithas Drydanol y Merched yn 1924, ac yn gadeirydd ar gynhadledd wyddoniaeth, diwydiant a masnach i fenywod y flwyddyn ganlynol.

Roedd hi’n gwrthwynebu alcohol, Iddewon a Chatholigion, gan godi gwrychyn nifer fawr o bobol yn sgil ei safbwyntiau ar hyd y blynyddoedd.

Camodd hi o’r neilltu yn 1945 yn sgil nifer o sylwadau dadleuol yn ystod blynyddoedd yr Ail Ryfel Byd.