Mae dyn 32 oed wedi cael ei arestio ar ôl i dri o bobol gael eu taro gan gar ger prif draeth Brighton.

Fe ddigwyddodd yn ystod ffrwgwd am oddeutu 5.20 fore heddiw (dydd Sul, Rhagfyr 1).

Mae lle i gredu bod nifer o’r rhai oedd yn ymladd wedi camu i mewn i’r car wrth i’r heddlu ymateb i’r digwyddiad.

Cafodd y dyn ei arestio ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol, ac mae tri o ddynion wedi’u cludo i’r ysbyty ag anafiadau.

Mae gan ddau ohonyn nhw anafiadau difrifol i’w pennau.

Cafwyd hyd i’r car yn ddiweddarach.

Dydy’r heddlu ddim yn credu bod rheswm brawychol am yr ymosodiad, ac maen nhw’n apelio am wybodaeth.