Mae Boris Johnson yn dweud y gallai newidiadau i’r gyfraith fod wedi cael eu cyflwyno a fyddai wedi atal yr ymosodiad brawychol yn Llundain pe na bai’r senedd yn San Steffan wedi cael ei chau tros fater Brexit.

Mae’n dweud na fyddai Usman Khan wedi gallu lladd ar London Bridge pe bai’r senedd wedi gallu newid y gyfraith i atal carcharorion rhag cael eu rhyddhau’n gynnar.

Mae’n cyhuddo’r “senedd grog ffaeledig o hoelio’u sylw ar atal Brexit”.

Daw ei sylwadau ynghanol ffrae tros ryddhau Usman Khan hanner ffordd drwy ddedfryd o garchar am droseddau brawychol.

Mae Jeremy Corbyn, arweinydd y Blaid Lafur, wedi canmol yr heddlu wrth iddyn nhw saethu’r troseddwr yn farw.

Sylwadau Boris Johnson

“Ers dod yn brif weinidog, dw i wedi dweud bod angen newid cyfeiriad sylweddol ar droseddau treisgar a diogelwch,” meddai Boris Johnson.

“Mae’r hyn dw i wedi ei weld dros y 24 awr diwethaf wedi fy ngwneud i’n grac – mae’n hollol amlwg na allwn ni barhau â’r dulliau methedig a gafwyd yn y gorffennol.

“Dyna pam dw i hefyd wedi dweud bod angen cadw troseddwyr treisgar a brawychwyr yn y carchar am fwy o amser a rhoi’r gorau i’r system o ryddhau’n gynnar yn awtomatig.

“Fe gymeron ni nifer o gamu er mwyn gwneud hyn cyn yr etholiad.

“Fodd bynnag, o ganlyniad i’r senedd grog ffaeledig oedd wedi hoelio’u sylw ar atal Brexit, doedden ni ddim yn gallu gwneud rhagor.”

Fe fyddai deddfwriaeth a ddaeth i ben pan gafodd y senedd ei diddymu wedi sicrhau bod carcharorion sydd wedi’u carcharu am fwy na phedair blynedd am drais neu droseddau rhyw yn cael eu rhyddhau dau draean o’r ffordd drwy eu dedfryd, yn hytrach na hanner ffordd fel sy’n digwydd ar hyn o bryd.