Mae Sajid Javid, Canghellor y Deyrnas Unedig, yn cyhuddo Nicola Sturgeon o “fynd i’r gwely â Jeremy Corbyn” er mwyn sicrhau ail refferendwm annibyniaeth i’r Alban.

Defnyddiodd Savid Javid daith i’r Alban i lambastio arweinydd yr SNP a phrif weinidog yr Alban, yn ogystal â’i “chyfeillion asgell chwith eithafol yn y Blaid Lafur”.

Fe wnaeth e honni fod y blaid yn “llawn gwrth-semitiaeth.”

Wrth ymgyrchu yn Stirling – un o brif dargedau’r SNP yn yr etholiad cyffredinol fis nesaf – siaradodd am yr effaith “wallgof” y byddai llywodraeth dan arweiniad Jeremy Corbyn ac wedi’i chefnogi gan Nicola Sturgeon yn ei gael ar y Deyrnas Unedig.

Mae Jeremy Corbyn yn dweud na fyddai’n caniatáu ail refferendwm annibyniaeth i’r Alban yn ystod “blynyddoedd cynnar” llywodraeth Lafur.

Ond dywed y Canghellor y bydd refferendwm yn cael ei gynnal y flwyddyn nesaf.

Ac fe rybuddiodd y byddai’n rhaid i’r Deyrnas Unedig ymdopi ag ail refferendwm Brexit o dan arweinyddiaeth y Blaid Lafur.