Bargen Brexit Boris Johnson yw’r bygythiad mwyaf i wasanaethau iechyd yr Alban, yn ôl Nicola Sturgeon, prif weinidog yr Alban, wrth iddi baratoi i draddodi araith yn Fife.

Mae disgwyl iddi ddweud bod prif weinidog Prydain yn “berygl real a chyfredol” i wasanaethau iechyd, ac y bydd ei fargen Brexit yn ei gwneud yn fwy anodd o lawer i ddenu staff o wledydd Ewrop.

Bydd hi’n rhybuddio hefyd y gallai ei fargen dorri incwm yr Alban o £9bn erbyn diwedd y degawd nesaf.

“Brexit eithafol Boris Johnson yw’r prif fygythiad i Wasanaeth Iechyd yr Alban ers iddo gael ei sefydlu ychydig dros 70 mlynedd yn ôl,” mae disgwyl iddi ei ddweud.

“Mae e’n fygythiad real a chyfredol i’n gwasanaeth iechyd annwyl sy’n cael ei reoli’n gyhoeddus.

“Bydd ei gynllun Brexit Torïaidd yn ei gwneud hi’n fwy anodd denu staff y Gwasanaeth Iechyd o Ewrop.

“Bydd yr economi’n arafu, gan roi mwy o bwysau ar gyllidebau’r Gwasanaeth Iechyd.

“O’i gymharu ag aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd, gallai ei fargen dorri incwm cenedlaethol yr Alban o £9bn erbyn diwedd y degawd nesaf.

“Ac os yw Boris Johnson yn tynnu’r Alban a’r Deyrnas Unedig alln o’r Undeb Ewropeaidd heb fargen fasnach o gwbl y flwyddyn nesaf, sy’n edrych yn gynyddol debygol, yna fe allai gostio £12.7bn.”

‘Ymosodiad parhaus’

Bydd Nicola Sturgeon yn rhybuddio bod cwmnïau cyffuriau o’r Unol Daleithiau eisiau “mynediad marchnad llawn” i’r Gwasanaeth Iechyd fel rhan o unrhyw fargen rhwng y Ceidwadwyr a Donald Trump, arlywydd yr Unol Daleithiau.

Byddai hynny’n codi costau’r Gwasanaeth Iechyd, mae disgwyl iddi rybuddio.

“Fydd y Gwasanaeth Iechyd fyth yn ddiogel yn nwylo Boris Johnson,” mae disgwyl iddi ei ddweud.