Mae ffrae wedi ei thanio rhwng y Ceidwadwyr a Channel 4 wedi i Boris Johnson wrthod a chymryd rhan yn nadl deledu’r sianel.

Yr amgylchedd oedd brif bwnc trafod dadl neithiwr, ac yn ystod y rhaglen aeth arweinwyr pum plaid benben â’i gilydd.

Er iddyn nhw gael eu gwahodd, penderfynodd arweinydd y Ceidwadwyr, Boris Johnson; ac arweinydd Plaid Brexit, Nigel Farage; i beidio â chymryd rhan.

Ac felly mi roddodd Channel 4 gerfluniau o rew er mwyn cymryd eu lle.

Cynigodd y Ceidwadwyr bod Michael Gove, y cyn-weinidog amgylchedd, yn cymryd rhan; a bellach mae’r blaid wedi cwyno i’r rheoleiddiwr, Ofcom.

“Mae Channel 4 wedi gwrthod derbyn y cynrychiolydd yma, ac maen nhw wedi dweud eu bod yn bwriadu gosod podiwm wag yn lle’r Prif Weinidog os nad yw’n dod,” meddai’r llythyr o gŵyn.

“Mae hyn yn ei hanfod yn amddifadu’r Blaid Geidwadol rhag cael eu cynrychioli a rhag medru cymryd rhan yn nadl Channel 4 News.”

Sylwadau Golygydd y sianel

Cyn y ddadl mi wnaeth Golygydd Channel 4 News, Ben de Pear, drydaru llun o Michael Gove a thad y Prif Weinidog – roedd y ddau yn y stiwdio.

“Dyna chi garedig oedd Michael Gove yn cynnig ei fod yn ymddangos ar Channel 4 News y prynhawn yma,” meddai, “ac rydym wastad yn ei groesawu ar y rhaglen.

“Fodd bynnag, gan nad yw’n arweinydd ar y Blaid Geidwadol doedd dim gofyn iddo gymryd rhan yn nadl heno – roedd y ddadl ar gyfer arweinwyr pleidiau yn unig.

“Gwnaethom hynny’n glir iddo sawl gwaith.”