Bydd bron i hanner pleidleiswyr yr Alban yn cefnogi’r SNP yn yr Etholiad Cyffredinol fis nesaf wrth i ganran y Blaid Lafur ostwng, yn ôl pôl piniwn newydd.

Dyma’r fantais fwyaf sydd wedi ei roi i’r SNP gan unrhyw arolwg yn yr Alban ers i’r ymgyrch etholiadol ddechrau.

Mae’n awgrymu y byddai canran pleidlais yr SNP yn codi o 36.9 yn 2017, i 44%.

Gyda chanran y Blaid Lafur yn gostwng i 16% o 27.1%.

Honnai’r arolwg y bydd 26% o bleidleiswyr yr Alban yn cefnogi’r Ceidwadwyr, sy’n ostyngiad o’r 28.% enillodd y blaid yn 2017.

Mae cefnogaeth i’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi cynyddu o 6.8% yn 2017 i 11% yn yr arolwg.

Tra mae’r Blaid Werdd ar 2% ac mae cefnogaeth i’r Blaid Brexit yn is na 1%.