Yr argyfwng hinsawdd fydd y testun trafod yn nadl deledu’r arweinwyr heno (nos Iau, Tachwedd 28).

Channel 4 sydd yn cynnal y ddadl ddiweddaraf, ac ymhlith y rheiny sy’n cymryd rhan mae Jeremy Corbyn, Llafur; Jo Swinson, y Democratiaid Rhyddfrydol; Nicola Sturgeon, SNP. Bydd Sian Berry o’r Gwyrddion hefyd yno, ac er i’r sianel wrthod a rhoi croeso i Blaid Cymru yn wreiddiol, mi fydd Adam Price yn cymryd rhan.

Mae’r Prif Weinidog, Boris Johnson; a Nigel Farage, Plaid Brexit; hefyd wedi’u gwahodd ond mae disgwyl iddyn nhw wrthod y gwahoddiad.

Bydd yr arweinwyr yn wynebu cwestiynau am sut y byddan nhw’n mynd ati i leihau allyriadau carbon, a byddan nhw’n cael eu herio i amddiffyn eu cynlluniau.

“Etholiad yr hinsawdd”

Daw etholiad eleni yn sgil blwyddyn o brotestiadau ynghylch yr argyfwng hinsawdd, ac mae rhai wedi galw’r bleidlais yn “etholiad yr hinsawdd”.

Rhai wythnosau yn ôl dangosodd arolwg barn y bydd yr argyfwng hinsawdd yn dylanwadu ar sut y bydd mwyafrif o bobol yn pleidleisio.

Mae’r astudiaeth gan ClientEarth yn dangos bod dau draean o bobol yn teimlo nad yw gwleidyddion yn trafod yr amgylchedd ddigon.