Bu farw’r cogydd teledu, Gary Rhodes. Roedd yn 59 oed ac yn byw yn Dubai ers rhai blynyddoedd.

Fe ddaeth datganiad gan ei deulu yn dweud iddo roi’r gorau i’r ysbryd yn dawel yng nghwmni ei wraig, Jennie, a oedd wrth ei erchwyn.

“Mae’r teulu Rhodes yn drist i gyhoeddi marwolaeth Gary – gwr, tad a brawd annwyl iawn,” meddai’r datganiad.

“Bu farw Gary nos Fawrth, Tachwedd 26, yn 59 oed.”