“Camgymeriad” fyddai gohirio refferendwm ar annibyniaeth i’r Alban tan ddiwedd cyfnod trosglwyddo Brexit, yn ôl Plaid Werdd yr Alban.

Daw sylwadau’r arweinydd Patrick Harvie wrth i’r blaid lansio’u maniffesto etholiadol yn Glasgow.

Mae’n dweud y byddai’n rhesymol i roi’r dewis i bleidleiswyr a ddylai’r Alban fod yn wlad annibynnol wrth i drafodaethau Brexit barhau.

Mae Boris Johnson, prif weinidog Prydain, yn mynnu y bydd Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd erbyn Ionawr 31 pe bai mewn grym erbyn hynny. Byddai cyfnod trosglwyddo o flwyddyn yn dilyn.

Mae Nicola Sturgeon, prif weinidog yr Alban, yn awyddus i gynnal ail refferendwm yn ail hanner y flwyddyn nesaf, ond mae Patrick Harvie yn dweud na fu trafod rhwng yr SNP a’r Blaid Werdd.

“Wnaeth yr Alban ddim pleidleisio dros Brexit, wnaeth yr Alban yn sicr ddim pleidleisio – a dw i’n sicr na wnaeth bron neb yn y DU bleidleisio – dros ddibyn y Brexit caled sy’n cael ei addo gan Boris Johnson y tu allan i’r farchnad sengl a’r undeb tollau, diddymu llawer o’n hawliau a’n hamddiffynfeydd ac agenda dadreoleiddio,” meddai Patrick Harvie.

Mae’n dweud y byddai’r amserlen mae’n ei chynnig yn rhoi’r cyfle i’r Alban benderfynu a yw’n dymuno bod yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd.

Serch hynny, mae’n dweud y dylid “stopio Brexit” yn gyfangwbl, gan ychwanegu y bydd y Blaid Werdd yn ymgyrchu dros ail refferendwm Brexit.