Mae ail gwmni sinema wedi penderfynu peidio â dangos ffilm dreisgar ar ôl ffrwgwd y tu allan i sinema yn Birmingham.

Cafodd saith o blismyn eu hanafu wrth geisio tawelu degau o bobol ifanc y tu allan i sinema Vue yn Star City, oedd wedi bod yn dangos ‘Blue Story’.

Cafodd pump o bobol, gan gynnwys merch 13 oed, eu harestio.

Mae Showcase Cinemas bellach wedi tynnu’r ffilm o 21 o ganolfannau yng ngwledydd Prydain ond dydyn nhw ddim wedi wfftio’r posibilrwydd o’i dangos rywbryd eto yn y dyfodol.

Mae’r ffilm gan Andrew Onwubolu, sy’n cael ei adnabod fel Rapman, yn trafod gangiau Llundain ac yn cynnwys golygfeydd o drais, rhyw a chyffuriau ac iaith gref.

Ond mae e wedi amddiffyn y ffilm, gan ddweud mai ffilm am “gariad nid trais” yw hi.

Mae’n dweud bod y trais yn “anffodus”.