Mae dyn 23 oed o Ogledd Iwerddon wedi cael ei gyhuddo o fasnachu pobol ar ôl i gyrff 39 o ffoaduriaid gael eu canfod yng nghefn lori yn Essex.

Cafodd Christopher Kennedy ei arestio ar draffordd M40 fore dydd Gwener (Tachwedd 22).

Mae wedi’i gyhuddo o gynllwynio i drefnu neu hwyluso symud pobol gyda’r bwriad o’u hecsbloetio, a chynllwynio i hwyluso’r broses o dorri cyfreithiau mewnfudo.

Bydd e’n mynd gerbron ynadon yn Chelmsford yfory (dydd Llun, Tachwedd 25).

Cefndir

Fe ddaw ar ôl iddi ddod i’r amlwg fod un o’r bobol yn eu harddegau yng nghefn y lori yn Grays wedi mynd ar goll o ganolfan loches yn yr Iseldiroedd.

Ond does dim rhagor o fanylion am yr unigolyn.

Roedd deg o bobol yn eu harddegau ymhlith 39 o gyrff pobol o Fietnam.

Daethpwyd o hyd iddyn nhw ar Hydref 23, ac mae lle i gredu bod y lori wedi teithio o Wlad Belg.

Bydd y gyrrwr Mo Robinson, 25 oed o Ogledd Iwerddon, yn mynd gerbron yr Old Bailey yfory, wedi’i gyhuddo o 39 achos o ddynladdiad, cynllwynio i fasnachu pobol, cynllwynio i gynorthwyo mewnfudo anghyfreithlon a gwyngalchu arian.

Mae trafodaethau ar y gweill hefyd i estraddodi Eamonn Harrison, 22, o Iwerddon i Loegr.

Aeth gerbron llys yn Nulyn ddydd Iau (Tachwedd 21) i wynebu cyhuddiadau o 39 achos o ddynladdiad, un o fasnachu pobol ac un arall o gynorthwyo mewnfudo anghyfreithlon.

Mae’r heddlu hefyd yn chwilio am Ronan Hughes, 40, a’i frawd Christopher, 34, ar amheuaeth o ddynladdiad a masnachu pobol.