Mae Jeremy Corbyn wedi addo y byddai llywodraeth Lafur yn sicrhau bod cwmnïau mawr yn talu eu cyfran deg o drethi ym Mhrydain.

Wrth gyfarfod gweithwyr canolfan Amazon yn Sheffield dywedodd y byddai’n cymryd camau i gyfyngu ar allu cwmnïau amlwadol i gofrestru i dalu eu trethi mewn gwledydd â threthi is.

Mae Llafur yn disgwyl i fesurau o’r fath godi £6.3 biliwn i’r Trysorlys erbyn 2024.

Pwysleisiodd Jeremy Corbyn hefyd y byddai llywodraeth Lafur yn rhoi isafswm cyflog o £10 yr awr i bawb, gwahardd contractau dim oriau a hawliau llawn i bob gweithiwr o’u diwrnod cyntaf yn eu swydd.

Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Amazon fod yr honiadau yn anwir yn achos Amazon.

“Rydym wedi buddsoddi mwy na £18 biliwn ym Mhrydain ers 2010, gan gyfrannu trethi o £793 yn ystod 2018. Mae pawb o’n gweithwyr yn ennill o leiaf £9.50 i £10.50 yr awr gan ddibynnu ar eu lleoliad.”