Mae Dominic Raab, Ysgrifennydd Tramor San Steffan, wedi gorchymyn llysgennad Tsiena i gyfarfod â fe yn sgil honiadau gan gyn-weithiwr conswliaeth y Deyrnas Unedig ei fod wedi cael ei arteithio yn Tsiena.

Cafodd Simon Cheng, a fu’n gweithio i Lywodraeth Prydain am ddwy flynedd, ei ddal yn Tsiena am 15 diwrnod ym mis Awst.

Dywedodd Simon Cheng wrth y BBC ei fod wedi ei “glymu, dallu a hwdio” cyn cael ei guro a’i orfodi i arwyddo cyfaddefiad ffals.

Cafodd ei gyhuddo o danio’r sefyllfa wleidyddol ansefydlog yn Hong Kong yn ogystal â honni bod Prydain yn cefnogi’r gwrthdystiadau.

“Dywedon nhw wrtha i fy mod yn fradwr ac yn elyn i’r wladwriaeth, cyn gofyn a wnaeth y gonswliaeth ofyn i mi ymyrryd yn y protestiadau,” meddai.