Mae dau lanc wedi cael eu carcharu am oes am lofruddio’r fyfyrwraig 17 oed, Jodie Chesney.

Clywodd llys yr Old Bailey bod y gwerthwyr cyffuriau Svenson Ong-a-Kwie, 19, ac Arron Isaacs, 17, wedi lladd Jodie Chesney trwy ddamwain yn dilyn ffrae gyda gwerthwyr cyffuriau eraill.

Roedd y fyfyrwraig wedi bod allan gyda ffrindiau yn Harold Hill, dwyrain Llundain ar Fawrth 1 pan gafodd ei thrywanu yn ei chefn. Roedd y ddau ymosodwr wedi ffoi mewn car oedd yn perthyn i werthwr cyffuriau arall.

Cafodd y ddau lanc eu harestio ddyddiau’n ddiweddarach.

Roedden nhw wedi gwadu llofruddio Jodie Chesney gyda’r ddau yn beio ei gilydd am ei thrywanu.

Wythnos ddiwethaf, roedd y rheithgor wedi cymryd lai na chwech awr i’w cael yn euog o lofruddio Jodie Chesney.

Heddiw (dydd Llun, Tachwedd 18) cafodd Svenson Ong-a-Kwie ei garcharu am oes gydag isafswm o 26 mlynedd dan glo. Cafodd Arron Isaacs ddedfryd o 18 mlynedd yn y carchar.

Roedd y barnwr Wendy Joseph QC wedi codi’r gwaharddiad ar gyhoeddi enw Arron Isaacs oherwydd amgylchiadau eithriadol yr achos.