Daeth cadarnhad y bydd Syr Paul McCartney yn perfformio yn  Glastonbury 2020.

Roedd y Beatle wedi anfon cyfres o negeseuon oedd yn awgrymu y byddai’n perfformio ar y llwyfan i ddathlu hanner can mlynedd ers sefydlu’r ŵyl.

Cafodd y newyddion ei gadarnhau gan drefnwyr yr ŵyl a oedd wedi trydar eu bod yn “hynod o gyffrous” i gyhoeddi y bydd Paul McCartney yn perfformio ar lwyfan Pyramid ar y nos Sadwrn yn ystod Glastonbury 2020.

Fe ymddangosodd Syr Paul McCartney ar lwyfan Pyramid nol yn 2004 gan berfformio caneuon o’i gyfnod gyda’r Beatles, y grŵp Wings a’i ganeuon ei hun.

Fis diwethaf daeth cadarnhad y bydd Diana Ross yn perfformio yn  Glastonbury  y flwyddyn nesaf.

Cafodd pob un o’r 135,000 o docynnau ar gyfer Glastonbury 2020 eu gwerthu o fewn hanner awr pan aethon nhw ar werth ym mis Hydref.