Does dim modd atal yr Alban rhag mynd yn wlad annibynnol, yn ôl Ian Blackford, arweinydd yr SNP yn San Steffan.

Mae’n rhybuddio na ddylai prif weinidog nesaf Prydain geisio atal yr ymgyrch drwy wrthod rhoi’r hawl i’r Alban gynnal ail refferendwm.

Byddai’n “annemocrataidd” pe bai’r blaid yn ennill mwyafrif o seddi, meddai.

“Does dim modd atal y symudiad tuag at annibyniaeth, a fydd hynny ddim yn newid p’un a yw llywodraeth Corbyn neu Johnson mewn grym yn Llundain,” meddai wrth raglen Andrew Marr ar y BBC.

Dywed fod yr SNP am gadw’r Ceidwadwyr allan o’r llywodraeth er mwyn ceisio atal Brexit.

“Ein blaenoriaethau, yn bennaf, yn yr etholiad hwn yw sicrhau y gallwn ni ddianc rhag Brexit – dyna’r peth cyntaf – ond hefyd sicrhau hawl yr Alban i ddewis ei dyfodol ei hun,” meddai wedyn.

“Does dim ots ai Jeremy Corbyn neu rywun arall yw e, mae angen i bwy bynnag sy’n brif weinidog barchu democratiaeth a’r gwir plaen yw fod yr SNP wedi ennill yr etholiad yn Senedd yr Alban yn 2016 ar ymrwymiad maniffesto i gynnal refferendwm pe bai amgylchiadau’n newid.”

Yn y cyfamser, mae’n dweud bod yr SNP yn dwyn achos yn erbyn ITV am hepgor Nicola Sturgeon o’r dadleuon teledu cyn yr etholiad cyffredinol ar Ragfyr 12.