Mae cyfweliad Tywysog Andrew â’r BBC wedi cael ei ddisgrifio fel “trychineb” ac “fel awyren yn taro tancer olew”.

Yn ystod y cyfweliad, fe geisiodd Dug Caerefrog amddiffyn ei gyfeillgarwch â’r diweddar Jeffrey Epstein, dyn busnes oedd wedi lladd ei hun wrth wynebu cyhuddiadau o fod yn bedoffil.

Ymgais oedd y cyfweliad â Newsnight i dawelu’r mater unwaith ac am byth, ac i wadu bod y tywysog wedi cael rhyw â merch 17 oed.

Ond fe ddywedodd sawl gwaith fod yna “fuddiannau difrifol” i’w cyfeillgarwch, gan gynnwys rhoi cyfleoedd busne iddo.

Mae’n gwadu iddo gael perthynas rywiol â’r ferch a’u bod nhw wedi cael rhyw dair gwaith, gan fynnu nad oedd yr un o’r achosion dan sylw wedi digwydd.

Roedd Virginia Giuffre wedi dweud bod y tywysog yn chwysu’n drwm, ond fe ddywedodd y tywysog nad oedd hynny’n bosib am resymau iechyd.

Dywed y tywysog ei fod e wedi cael cefnogaeth ei deulu ers y dechrau.

‘Trychinebus’

Mae’r cyfweliad yn cael ei ddisgrifio gan arbenigwr cysylltiadau cyhoeddus fel “trychineb”.

“Ro’n i’n disgwyl dinistr trên.

“Awyren oedd hyn yn taro tancer olew, gan achos tswnami, oedd wedi achosi ffrwydrad niwclear,” meddai Charlie Proctor, golygydd gwefan Royal Central.

Ymateb arbenigwr

“Dw i erioed wedi gweld unrhyw beth mor drychinebus,” meddai Mark Borkowski.

“I unrhyw fyfyrwyr cysylltiadau cyhoeddus, dyna sut i beidio ei gwneud hi.

“Roedd fel gwylio dyn mewn traeth gwyllt ac yn anffodus, dw i ddim yn meddwl y byddai unrhyw un wedi ceisio ei achub a’i gael e allan o’r twll.”