“Baswn i’n dweud nid yn unig mae gwleidyddiaeth y Deyrnas Gyfunol wedi torri – baswn i’n dweud bod y Deyrnas Gyfunol wedi torri.”

Dyna mae’r athro Richard Wyn Jones, o Ganolfan Llywodraethiant Cymru, wedi ei ddweud am y sefyllfa wleidyddol sydd ohoni ar drothwy etholiad cyffredinol.

Tros y misoedd diwethaf mae llu o ffigyrau amlwg – gan gynnwys Mark Drakeford a Carwyn Jones – wedi dweud bod Brexit yn rhoi straen ar yr undeb ac wedi galw am ddiwygio.

A gan dynnu sylw at Ddêl Boris Johnson – a fyddai’n gosod Gogledd Iwerddon dan gyfundrefn wahanol i weddill gwledydd Prydain – mae’r academydd wedi atseinio’r syniadau yma.

“Oherwydd bod ffasiwn ferw o ddigwyddiadau mae yna dueddiad i golli golwg ar y pethau gwirioneddol arwyddocaol,” meddai wrth golwg360.

“Mae [dêl Boris Johnson, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig] yn golygu newid sylfaenol iawn ym mherthynas un rhan o’r wladwriaeth efo’r gweddill.

“Mae Gogledd Iwerddon wedi cael ei gosod y tu allan i brif fframwaith cyfansoddiadol y wladwriaeth. Ac mae’r Blaid Geidwadol – sydd yn honni bod yn blaid Geidwadol ac Unoliaethol – wedi cytuno i hyn heb, hyd y gwela’ i, unrhyw wrthwynebiad.

“Yng nghanol hyn i gyd mae yna newid sylfaenol i’r wladwriaeth yn digwydd.”

Ymgyrch a fydd yn “pegynnu”

Wrth edrych at yr wythnosau o ymgyrchu sydd i ddod, mae Richard Wyn Jones yn dweud ei fod yn disgwyl i gymdeithas gael ei rhannu’n fwy.

“Mi oedd gwleidyddiaeth wedi pegynnu wrth gwrs yn 2017 – adeg yr etholiad diwethaf – ond dw i’n meddwl bod y tueddiad yna wedi parhau,” meddai.

“A dwy flynedd yn ddiweddarach mae lefel y pegynnu hyd yn oed yn fwy eithafol.

“Nid yn unig bod ni yn y sefyllfa yna, ond dw i’n meddwl bod yr ymgyrch etholiadol yn debyg o ddwysau a phegynnu hyd yn oed ymhellach.”