Mae’r Ceidwadwyr wedi honni y byddai lefelau mewnfudo yn “chwyddo” pe bai Jeremy Corbyn yn dod yn Brif Weinidog.

Hyd yma dyw Llafur ddim wedi cyhoeddi eu maniffesto etholiadol, ond yn ei chynhadledd eleni mi bleidleisiodd y blaid tros “gynnal ac ehangu hawliau symudiad rhydd”.

Yn ôl eu gwaith ymchwil hwythau, mae’r Ceidwadwyr yn honni y byddai ymestyn symudiad rhydd i weddill y byd yn arwain at gynnydd mewn mewnfudo net – cynnydd o 840,000 y flwyddyn.

Mae’r Torïaid yn dweud bod eu canfyddiadau wedi’u selio ar ffigurau swyddogol, ond mae’r Blaid Lafur wedi’u disgrifio’n “ffug newyddion”.

“Dan Lafur Corbyn, byddai lefelau mewnfudo yn chwyddo ac yn rhoi straen mawr ar ysgolion ac ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol,” meddai’r Ysgrifennydd Cartref, Priti Patel.

“Does gan Jeremy Corbyn ddim cynllun credadwy ynghylch sut i ddelio â goblygiadau ei bolisi ffiniau agored.”

“Ffug newyddion”

Mae Diane Abbott wedi ymateb trwy ddweud mai’r Ceidwadwyr sydd wedi “achosi niwed i’n cymdeithas”, nid mewnfudwyr.

“Dyma ragor o ffug newyddion gan adran ymchwilio ddychmygol y Blaid Geidwadol,” meddai Ysgrifennydd Cartref Cysgodol Llafur.

“Yn wahanol i’r Torïaid fyddwn ni ddim yn trin mewnfudwyr yn fychod dihangol, a fyddwn ni ddim yn gorfodi ein dinasyddion cenhedlaeth Windrush i adael y wlad.”