Mae ymgeiswyr o’r Blaid Lafur a’r Ceidwadwyr wedi dweud mai “mater o amser” yw hi nes bod canabis yn cael ei gyfreithloni yn y Deyrnas Unedig.

Er eu bod ar ochrau gwahanol yn yr etholiad cyffredinol, mae canabis yn fater y gwnaeth David Lammy a Crispin Blunt gytuno arno yn ystod panel yn uwchgynhadledd arweinwyr Sefydliad Canabis y Byd.

Mae pleidiau megis y Democratiaid Rhyddfrydol, Plaid Cymru a’r Blaid Werdd eisoes wedi mynegi eu parodrwydd i gynnal trafodaethau ar gyfreithloni canabis.

Newid meddylfryd

Mae canabis ar hyn o bryd yn gyffur Dosbarth B ac mae ei ddefnyddio yn erbyn y gyfraith.

Ond fe fu newid agwedd tuag at y cyffur.

Mae’r meddyginiaethau canabis cyntaf ar gael i’w defnyddio ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ers dydd Llun (Tachwedd 13).

Ac mae gwledydd fel Canada a sawl talaith yn America eisoes wedi cyfreithloni’r defnydd o’r cyffur.

“Dwi’n meddwl ein bod cyrraedd safle lle nad yw pobl yn meddwl ‘a fydd yna reoliadau a chyfreithloni?’ Dwi’n meddwl fod o’n fater o sut a phryd,” meddai David Lammy.