Mae cyn-weinidog Llafur yn dweud y byddai cael Jeremy Corbyn yn brif weinidog Prydain yn rhoi ias i lawr ei gefn.

Mae Tom Harris, oedd wedi gwasanaethu cabinet Tony Blair a Gordon Brown, yn dweud ei fod yn bwriadu pleidleisio dros y Ceidwadwyr yn yr etholiad cyffredinol ar Ragfyr 12.

Dywed fod y Blaid Lafur bellach yn “eithafol”, gan honni nad yw Jeremy Corbyn yn “rhywun y gallaf ymddiried ynddo gyda diogelwch y wlad.”

Mae’r awgrym y gallai llywodraeth Lafur ganiatáu ail refferendwm ar annibyniaeth i’r Alban yn “ychwanegu at y rhesymau niferus dros bleidleisio yn erbyn Llafur,” meddai.

Fe adawodd y Blaid Lafur y llynedd.