Mae nifer y teithwyr trwy faes awyr Caeredin wedi cwympo’n arw ers i’r ehediad i Stansted gael ei ganslo.

Cyfanswm y teithwyr yn ystod mis Hydref oedd 1,309,170, cwymp o 1% o gymharu â’r un mis y llynedd.

Mae’r ystadegau yn dangos y gostyngiad cyntaf yn nifer teithwyr ers pum mlynedd, ar wahân i’r cwymp o ganlynad i dywydd gwael iawn Mawrth 2018.

Fe fu gostyngiad o 6.1% yn nifer y teithwyr domestig yn ystod Hydref eleni, gyda’r maes awyr yn nodi mai penderfyniad cwmni Ryanair i roi’r gorau i hedfan rhwng Caeredin a Stansted yn Llundain sydd wrth wraidd hyn.

Fe fu cynnydd yn nifer y teithwyr rhyngwladol, gyda chyfanswm o 850,484 yn hedfan dramor y mis diwethaf – i fyny 2% ar nifer Hydref 2018.