Mae tri o bobol wedi cael eu haretio wedi i fachgen yn ei arddegau gael ei drywanu mewn parc yn Llundain.

Mae Heddlu’r Met yn cadarnhau fod swyddogion wedi’u galw i Barkng am 7.24yh neithiwr (nos Lun, Tachwedd 11).

Roedd y bachgen 17 oed wedi’i drywanu, ac fe gafodd ei gludo i’r ysbyty lle mae’n parhau i fod mewn cyflwr critigol.