Gallai achos mwyaf colli golwg effeithio 77 miliwn o bob Ewropeaidd erbyn 2050, yn ôl ymchwilwyr.

Mae ymchwil newydd yn darogan y bydd y ffigyrau presennol o age-related macular degeneration yn codi 15% yn y 30 mlynedd nesaf.

Ar hyn o bryd mae oddeutu 67 miliwn o bob yn cael eu heffeithio gan ryw fath o age-related macular degeneration ac mae’n llawer mwy cyffredin ymysg pobl hyn.

Ond erbyn 2050, mae ymchwilwyr yn darogan y bydd un ymhob pedwar oedolyn yn Ewrop yn dioddef ohono, gydag un ymhob 10 o’r rheini o dan 65 oed a 27% o’r rheini dros 75.

Mae’r ymchwilwyr sy’n gyfrifol am y ffigyrau newydd, o Brifysgol Bonn yn yr Almaen wedi edrych ar 26 ymchwil gwahanol, yn cynnwys 55,323 o bobl, rhwng yr oedran 60 a 81.