Mae dwy feddyginiaeth ganabis wedi cael eu cymeradwyo i’w defnyddio gan y Gwasanaeth Iechyd am y tro cyntaf erioed.

Mae Epidyolex yn trin dau fath o epilepsi, Lennox-Gastaut a Dravet, tra bod Sativex yn trin y cyhyrau mewn cleifion sydd ag MS.

Tra bod elusennau’n croesawu’r newyddion, mae miloedd yn rhagor o gleifion yn dal heb gymorth.

Mae’n gyfreithlon ers y llynedd i feddygon roi presgripsiwn ar gyfer canabis at ddefnydd meddygol, ond mae nifer yn dal yn gyndyn o wneud hynny oherwydd diffyg arweiniad a chostau uchel.

Mae’n golygu bod rhai teuluoedd yn chwilio am ganabis dramor, ac yn dod â’r cynnyrch i mewn i wledydd Prydain gan dorri’r gyfraith.

Yn ôl sefydliad iechyd NICE, ddylai canabis ddim cael ei ddefnyddio i drin cyflyrau cronig gan nad yw THC, sydd i’w gael mewn canabis, yn dda ar eu cyfer.

Ac maen nhw’n dweud bod angen gwneud mwy o ymchwil i effaith canabis ar fathau gwahanol o epilepsi. Mae hyd at 9,000 o bobol yng ngwledydd Prydain yn dioddef o Lennox-Gastaut a Dravet.

Mae ymgyrchwyr yn dadlau bod cyfle wedi’i golli i sicrhau bod mwy o bobol yn cael mynediad i ganabis at ddefnydd meddygol, gan feirniadu sefydliadau iechyd am ganolbwyntio ar dreialon yn unig.