Mae’r Swyddfa Dramor yn dweud nad oes “dim sail” i honiadau teulu Harry Dunn fod Dominic Raab, Ysgrifennydd Tramor San Steffan, wedi camddefnyddio’i swydd.

Fe fu’r teulu’n ceisio gwyrdroi penderfyniad y Swyddfa Dramor i roi hawliau diplomyddol arbennig i Anne Sacoolas ar ôl i’w char daro beic modur Harry Dunn a’i ladd.

Mae lle i gredu y bydd y Swyddfa Dramor yn gwrthwynebu unrhyw gais am adolygiad barnwrol, ac yn ceisio adennill unrhyw gostau a ddaw yn sgil hynny.

Fe fu teulu Harry Dunn yn pwyso ar y Swyddfa Dramor i ddileu’r cyngor a gafodd ei roi i Heddlu Swydd Northampton i roi hawliau diplomyddol i’r ddynes sydd wedi’i hamau o’i ladd.

Mae cyfreithwyr ar ran y teulu hefyd wedi cynnig yr opsiwn o dalu costau sylweddol am dorri hawliau dynol.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ger safle’r awyrlu yn Croughton yn Swydd Northampton ar Awst 27, ac fe ddychwelodd Anne Sacoolas i’r Unol Daleithiau.

Mae’r Swyddfa Dramor yn gwadu iddo gael ei ladd yn anghyfreithlon, a bod Dominic Raab wedi camddefnyddio’i swydd i helpu Anne Sacoolas.