Mae prif drafodwr yr Undeb Ewropeaidd, wedi rhybuddio’r Deyrnas Unedig y gallai cytundeb fasnach gyda fod yr un mor anodd ei drafod â chytundeb Brexit.

Dywed Michel Barnier y bydd hi’n glir erbyn haf 2020 os fydd angen estyniad ar y cyfnod trawsnewidiad sydd eisoes yno i gytuno ar ddyfodol perthynas y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.

Mae yno bryderon ym Mrwsel y gallai’r Deyrnas Unedig drawsnewid ei hun i mewn i economi â rheolau llac fyddai yn tandorri safonau cymdeithasol, amgylcheddol a dyngarol yr Undeb Ewropeaidd.

“Dylai’r Deyrnas Unedig ddim meddwl fod tariff sero a  chwotâu sero fod yn ddigon,” meddai. “Mi fydd yr Undeb Ewropeaidd yn mynnu cael tariff sero, cwotâu sero a symio sero.”