Mae Nicola Sturgeon wedi herio Boris Johnson a Jeremy Corbyn i ddadl wleidyddol gyhoeddus.

Mae Prif Weinidog yr Alban yn dweud y byddai yn fodlon dadlau yn erbyn y ddau arweinydd yn “unrhyw le, unrhyw bryd”.

Daw ei sylwadau ar ôl i arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Jo Swinson gwyno wrth ITV am eu penderfyniad i beidio â’i gwahodd i ddadl, gyda dim ond Boris Johnson a Jeremy Corbyn yn dadlau ar y sianel.

Pan ofynnwyd i Nicola Sturgeon pe byddai hi’n hoffi cymryd rhan mewn dadl ar y teledu, dywedodd y byddai “bendant” eisiau hynny.

“Fy neges i Jeremy Corbyn a Boris Johnson yw, beth ydych chi’n ei ofni?

“Mi wnâi ddadlau yn erbyn un ohonyn nhw, mi wna’ i ddadlau yn erbyn y ddau ohonyn nhw, unrhyw le, unrhyw bryd.”