Mae disgwyl i gwmni Mothercare, sydd â thair siop yng Nghymru, fynd i ddwylo’r gweinyddwyr, gan roi hyd at 2,500 o swyddi mewn peryg.

Bydd y cwmni’n cyflwyno cais i fynd i ddwylo’r gweinyddwyr heddiw (dydd Llun, Tachwedd ), meddai.

Mae’n cyflogi oddeutu 500 o staff llawn amser a 2,000 yn rhan amser mewn 79 o siopau yng ngwledydd Prydain, gan gynnwys un yn Abertawe a dwy yng Nghaerdydd.

Fe wnaeth y cwmni golledion gwerth £36.9m erbyn diwedd y flwyddyn ariannol ddiwethaf.

Daw’r newyddion ar adeg anodd i siopau’r stryd fawr, sydd wedi gweld Bonmarche, Jack Wills a Karen Millen yn mynd i’r wal. 

Trafferthion

Mae Mothercare wedi cwblhau adolygiad ac yn dweud nad oes modd dychwelyd i’r dyddiau pan oedd yn gwneud elw sylweddol.

Bydd y cais i fynd i ddwylo’r gweinyddwyr yn rhan o’r broses o ail-strwythuro’r cwmni a’i sefyllfa ariannol.

Mae Mothercare wedi cau 55 o siopau dros y flwyddyn ddiwethaf mewn ymgais i ddatrys y sefyllfa ac i sicrhau ei ddyfodol.

Roedd yn gwneud cynnydd fel rhan o Drefniant Gwirfoddol (CVA) ond mae trafferthion siopau’r stryd fawr wedi arafu’r cynnydd hwnnw.

Roedd gwerthiant yng ngwledydd Prydain i lawr 23.2% yn ystod y pymtheg wythnos hyd at fis Gorffennaf.

Yn gynharach eleni, cafodd yr Early Learning Centre, sy’n rhan o gwmni Mothercare, ei werthu i The Entertainer am £13.5m.