Mae dyn 58 oed wedi marw mewn damwain ar draffordd yr M25 yn Surrey.
Dywed yr heddlu fod y dyn wedi marw wedi i’w fan Volkswagen Transporter wrthdaro rhwng cyffyrdd 5 a 6 yn Godstone tua 11.15yh neithiwr (nos Sul, Tachwedd 3).
Fe gafodd y lôn ei chau am bump awr wrth i heddlu ymchwilio i’r digwyddiad.
Mae’r ymchwiliad yn parhau.