Mae Nigel Farage yn dweud na fydd e’n sefyll yn yr etholiad cyffredinol fis nesaf.

Dywed arweinydd Plaid Brexit ei fod e am ganolbwyntio ar fater Brexit yn yr Undeb Ewropeaidd yn hytrach na cheisio am sedd yn San Steffan.

Mae’n gwrthwynebu bargen Boris Johnson.

“Dw i wedi meddwl yn galed iawn am hyn,” meddai wrth raglen Andrew Marr ar y BBC.

“Sut ydw i’n gwasanaethu achos Brexit orau?

“Ydw i’n dod o hyd i sedd a cheisio cael fy hun yn y Senedd, neu ydw i’n gwasanaethu’r achos orau drwy deithio ar hyd a lled y Deyrnas Unedig yn cefnogi 600 o ymgeiswyr?

“A dw i wedi penderfynu mai’r ail drywydd yw’r un cywir.”