“Mae Alban annibynnol o fewn cyrraedd” fydd neges Nicola Sturgeon wrth annerch rali annibyniaeth yn Glasgow heddiw (dydd Sadwrn, Tachwedd 2).

A byddai buddugoliaeth i’r SNP yn yr etholiad cyffredinol fis nesaf yn golygu mynd cam yn nes at y nod, yn ôl prif weinidog yr Alban.

Dyma’r tro cyntaf iddi annerch rali annibyniaeth ers y refferendwm aflwyddiannus yn 2014.

“Mae pleidlais dros yr SNP yn golygu pleidlais i ddianc rhag Brexit, ac i roi dyfodol yr Alban yn nwylo’r Alban, ac nid yn nwylo Boris Johnson.

“Yr etholiad hwn yw’r pwysicaf y mae’r Alban wedi’i wynebu yn yr oes sydd ohoni.

“Mae cymaint yn y fantol – mae pobol wedi diflasu’n llwyr ar y llanast yn San Steffan.”

2020

Mae Nicola Sturgeon yn mynnu bod rhaid cynnal y refferendwm nesaf y flwyddyn nesaf.

Bydd hi’n gwneud cais ffurfiol i Boris Johnson cyn diwedd y flwyddyn, meddai.

Hefyd yn siarad yn y rali mae’r aelodau seneddol Mhairi Black, Humza Yousaf a Patrick Harvie.

Ond mae Richard Leonard, arweinydd Llafur yr Alban, yn dweud mai refferendwm yw’r “peth olaf sydd ei angen ar yr Alban”.