Wrth i’r ymgyrchu ar gyfer yr etholiad cyffredinol ym mis Rhagfyr ddechrau, mae Donald Trump wedi bod yn lleisio ei farn am Boris Johnson a Jeremy Corbyn.

Fe rybuddiodd Arlywydd yr Unol Daleithiau y byddai Jeremy Corbyn yn arweinydd “gwael iawn” i wledydd Prydain, ond fe ddywedodd mai Boris Johnson oedd “y dyn iawn” ar gyfer y swydd.

Mae Donald Trump hefyd wedi galw ar y Prif Weinidog ac arweinydd y Brexit Party, Nigel Farage, i “ddod ynghyd” gan ganmol y ddau.

Daeth sylwadau’r Arlywydd wrth i Boris Johnson roi addewid y bydd yn cyflwyno Brexit erbyn mis Ionawr “fan bellaf” os yw’r Ceidwadwyr yn ennill yr etholiad.

Ond mae Donald Trump wedi beirniadu cytundeb Brexit Boris Johnson gan ddweud y bydd rhai agweddau o’r cytundeb yn rhwystro masnach gyda’r Unol Daleithiau.

Mae Jeremy Corbyn wedi ymateb i’w sylwadau drwy ddweud bod Donald Trump yn ceisio “ymyrryd yn yr ymgyrch etholiadol ym Mhrydain er mwyn sicrhau bod ei ffrind Boris Johnson yn cael ei ethol.”

Mae disgwyl i’r etholiad cyffredinol gael ei gynnal ar Ragfyr 12.