Dywed gwyddonwyr eu bod wedi datblygu’r prawf poer cyntaf i ganfod a yw person wedi cymryd y cyffur Spice yn ddiweddar.

Gellir cymryd y prawf mewn tua phum munud, yn y fan a’r lle, ac mae’n nodi a y ydi’r unigolyn wedi cymryd canabinoidau synthetig – y cemegolion sy’n bresennol mewn Spice.

Y gobaith yw y gall gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ei ddefnyddio i drin yn well bobolsydd wedi cymryd Spice ac wedi mynd yn anymwybodol neu’n seicotig.

Dywed gwyddonwyr mai’r dull cyfredol o brofi am sylweddau o’r fath yw sampl wrin neu waed sy’n cael ei anfon i labordy, gyda’r canlyniadau’n cymryd dyddiau i ddod yn ôl.

Mae Spice yn syleedd a all gynnwys dros gant o gemegau, gan ei gwneud hi’n anodd profi amdanyn nhw.

Y gobaith yw y bydd gweithwyr meddygol proffesiynol yn gallu treialu’r prawf o fewn blwyddyn.

Mae’r prawf prototeip i’w weld yn y rhifyn diweddaraf o’r cyfnodolyn Analytical Chemistry.